Cynnig i gyfarwyddo Pwyllgor – Cynnig Dyddiad Trafod NDM6573

1.   Gwahoddir Aelodau i nodi NDM6573 (fel y’i diwygiwyd), a dderbyniodd y Cynulliad ar 29 Tachwedd 2017.

 

2.   Mae’r cynnig yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi pedwar pwynt, gan gynnwys yr adroddiad gan James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru, i honiadau i’r Prif Weinidog dorri Cod y Gweinidogion.

 

3.       NDM6573 (fel y’i diwygiwyd)
 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2, yn cyfarwyddo’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i nodi:
 
 1. Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i benodi panel o gynghorwyr annibynnol i ddarparu ffynhonnell allanol o gyngor arbenigol ar ymddygiad Gweinidogol yn unol â’r hyn sy’n ofynnol o dan God y Gweinidogion, fel y nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd 2017.
 2. Bod James Hamilton, sy’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth yr Alban ar hyn o bryd, wedi ei benodi’n gynghorydd annibynnol i Lywodraeth Cymru; a
 3. Bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio’i hun at James Hamilton mewn perthynas â honiadau, a wnaed yn y pythefnos diwethaf, iddo dorri Cod y Gweinidogion; ac
 4. Adroddiad terfynol y Cynghorydd Annibynnol pan fydd yn cael ei gyhoeddi.
 
 Datganiad Ysgrifenedig
 Cod y Gweinidogion – Tachwedd 2017
 
 Cafodd adroddiad James Hamilton ei osod gerbron y Cynulliad ar 17 Ebrill 2018.